
19 Rhag CD a cherddoriaeth ar gael nawr!

CD a cherddoriaeth ar gael nawr!
Iau, 22 Tachwedd 2017
Am flwyddyn cyffrous! Ar ol gymaint o drefnu a pharatoi, mae’n bleser cael rhannu’r newyddion fod fy CD cyntaf, ‘O Wyll i Wawr’ ar gael i’w brynu. Mae’r gerddoriaeth yn cynnwys unawdau poblogaidd gan Tournier, Chertok a Renie, ac hefyd trefniadau o weithiau piano hyfryd gan Bartok, Debussy a Glinka. Gadewch i’r gerddoriaeth eich swyno a chreu darluniau prydferth o’r machlud i ail-ddyfodiad yr haul. Gallwch hefyd glywed un o fy nghyfansoddiadau, Lleuad Mefus, sydd hefyd ar gael i brynu gyda Creighton’s Collection. Mwy o wybodaeth ar y doleni isod!