
02 Maw Enwi fel Artist gyda City Music Foundation

Artist gyda City Music Foundation!
Llun, 15 Ionawr 2018
Mae’n hyfryd cael dechre 2018 gyda datganiad cyffrous! Ynghyd a 3 unawdydd arall ac un ensemble, dwi wedi cael fy newis fel Artist gan City Music Foundation. Y cerddorion eraill sydd hefyd yn ymuno gyda’r elusen yw:
Lotte Betts-Dean – mezzo-soprano
Alex Hitchcock – jazz saxophone
Rokas Valuntonis – piano
Eblana String Trio – violin, viola, cello
Mae’r elusen yn rhoi cefnogaeth a chyngor i gerddorion adeiladu gyrfa lwyddianus, ac yn barod dwi’n teimlo fod y cymorth dwi’n derbyn yn amhrisiadwy. Dwi’n barod wedi bod i weithdai, cael cyngor ar brosiectau a chael cyfle i gwrdd a cherddorion eraill sy’n gweithio gyda’r elusen. Dwi’n dishgwl ‘mlan i weld be fydd yn digwydd dros y blynyddoedd nesaf! Gallwch ddarganfod mwy am yr elusen ar y wefan.