
06 Hyd Cyngerdd unawdol yn St Bart’s the Less

Cyngerdd Unawdol
Dydd Gwener, 5 Hydref 2018
Braint yw cael fy ngwahodd i berfformio yn St Bart’s the Less. Mae cyfres o gyngherddau City Music Foundation yn cyflwyno artist newydd bob wythnos, a dwi’n dishgwl mlan i rannu fy rhaglen mewn llai na pythefnos. Bydd y rhaglen yn cynnwys fy nhrawsgrifiad o Breliwd a Nocturne i’r llaw chwith gan Scriabin, yn ogystal â cherddoriaeth Gymreig gan Grace Williams, Haldon Evans a William Mathias. Os hoffech wbod mwy am y paratoadau, gallwch ddarllen cyfweliad byr yma.
Mae’r gyngerdd yn rhad ac am ddim, ond dylech archebu eich tocyn cyn iddynt ddiflanu!
17eg o Hydref, 2018
13:00