
11 Mai Mae fy CD nesaf…

Mae fy CD nesaf…
Llun, 3 Chwefror 2020
…yn cael ei recordio yn hwyrach wythnos yma!
Dwi wir yn dishgwl ‘mlan i ddechrau gweithio’n iawn ar y prosiect yma, gyda’r sesiwn cyntaf yn cael ei recordio yn hwyrach wythnos yma. Bydd y CD yn llawn o ddarnau Cymreig, gan gynnwys un o ‘nghyfansoddiadau newydd yn ogystal â chomisiwn newydd gan Mared Emlyn. Galla i ddim meddwl am unrhyw le gwell i recordio nac ym Mhrifddinas Cymru, Caerdydd, lle bum yn astudio ar gyfer fy ngradd gynta. Byddaf yn rhannu mwy o wybodaeth cyn gynted a bydd modd!