
10 Mai Gwedd newydd ar Galon Lan

Gwedd Newydd ar Galon Lan
Sul, 10 Mai 2020
Ma hi wedi bod yn gyfnod gwahanol iawn i ni gyd, felly dyma fideo bach i lonni’ch calon. Rhai wythnosau yn ôl, roeddwn fod i berfformio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, yn cynnwys rhannu’r perfformiad cyntaf o ‘nghyfansoddiad newydd, Ffantasi ar Calon Lan. Fel nifer o’m cyngherddau, bu rhaid gohirio. Ond nawr, gallwch fwynhau’r cyfansoddiad yn gysurus yn y tŷ!
Gobeithio bydd cyfle cyn i hir i chi gael mwynhau y darn mewn cyngerdd byw, ond am nawr, cadwch yn saff a iach.
Diolch i’r Royal Over-seas League am eich cefnogaeth mewn cyfnod mor anodd i artistiaid.